Justin Bieber
Ni fydd Justin Bieber yn wynebu cyhuddiadau yn dilyn honiadau ei fod wedi bygwth ei gymydog oedd wedi cwyno am safon ei yrru.

Fe benderfynodd erlynwyr yn Los Angeles nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo’r canwr pop, yn ôl adroddiadau.

Roedd un o gymdogion Bieber, 19, wedi honni ei fod wedi ei fygwth pan gwynodd am ei yrru ym mis Mawrth.

Yn ogystal, dywedodd yr erlynydd Alan Yochelson nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo Bieber ynglŷn â chwyn gan gymydog arall bod y canwr pop wedi gyrru ei Ferrari’n fyrbwyll yn yr ardal ym mis Mai.

Yn ôl Alan Yochelson nid oedd yn glir pwy oedd yn gyrru’r car ar y pryd.