Arlywydd Assad
Mae grŵp o arbenigwyr sy’n goruchwylio’r broses o ddinistrio arfau cemegol yn Syria wedi cychwyn eu gwaith heddiw, wrth i’r brwydro gwaedlyd barhau ar gyrion Damascus.

Mae’r grŵp wedi cael amser terfyn o naw mis i geisio darganfod a dinistrio 1,000 o dunelli o arfau cemegol yr Arlywydd Assad ar orchymyn y  Cenhedloedd Unedig.

Mae’r tîm yn cynnwys 19 o arbenigwyr arfau cemegol o’r Iseldiroedd a 14 o weithwyr y Cenhedloedd Unedig.

Fe gyrhaeddodd yr arolygwyr yn Namascus ddydd Mawrth ac mae disgwyl i grŵp arall ymuno â nhw o fewn yr wythnos.

Yn y cyfamser, mae’r ymladd yn parhau ar gyrion y ddinas rhwng lluoedd Syria a gwrthryfelwyr sydd â chysylltiadau ag al-Qaida. Cafodd 12 o filwyr eu lladd ddydd Llun wrth i luoedd Assad geisio symud  gwrthryfelwyr o’r brifddinas.