Mae’r heddlu yn nhalaith Arkansas wedi saethu’n farw dyn 107 oed yn nhref Pine Bluff ar ôl iddo fygwth dau berson â gwn.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ, rhyw 45 milltir i’r de ddwyrain o Little Rock, ar ôl derbyn adroddiadau bod Monroe Isadore yn bygwth dau berson.

Dywedodd David Price o Heddlu Pine Bluff, eu bod wedi rhybuddio Monroe Isadore eu bod ar fin mynd i mewn i’r tŷ, ond ei fod wedi saethu trwy’r drws.

Bu’n rhaid i’r heddlu daflu nwy dagrau i’r ystafell lle’r oedd Monroe Isadore ond dechreuodd saethu at yr heddlu a gorfodwyd i’r heddlu ei saethu’n farw.

Dywedodd David Price bod yr ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.