Hitler, gyda Neville Chamberlain
Mae un o warchodwyr personol Adolf Hitler, a’r olaf i weld y Furher a’i wraig Eva Braun yn fyw cyn iddyn nhw ladd eu hunain, wedi marw yn 96 oed.

Roedd Rochus Misch, a oedd yn enedigol o Wlad Pwyl, wedi gwasanaethu Adolf Hitler fel ei warchodwr personol trwy gydol yr Ail Ryfel Byd ac roedd yn dyst i farwolaeth arweinydd y Natsïaid yn y byncer tanddaearol ym Merlin ar Ebrill 30, 1945.

Bu farw Rochus Misch ym Merlin ar ôl salwch byr.

Mewn cyfweliad yn 2005, dywedodd Rochus Misch bod Adolf Hitler yn “ddyn cyffredin iawn” a’i fod yn arweinydd arbennig. Meddai: “Roedd yn feistr gwych, Bûm yn byw gydag ef am bum mlynedd. Ni oedd y bobl agosaf ato. Roeddem ar gael iddo ddydd a nos.”

Yn ddiweddarach yn ei fywyd, gwrthododd Misch drafod yr Holocost gan ddatgan nad oedd yn gwybod dim am lofruddiaeth chwe miliwn o Iddewon. Dywedodd nad oedd Adolf Hitler erioed wedi trafod y peth gydag ef.

Wrth ddisgrifio munudau olaf Adolf Hitler, dywedodd Misch: “Fe welais ef yn mynd i’w ystafell…roedd pawb yn gwybod beth oedd yn digwydd. Roedd wedi dweud nad oedd am adael Berlin a’i  fod am aros yno.”

Roedd Adolf Hitler wedi lladd ei hun ynghyd â’i wraig newydd Eva Braun wrth i’r Fyddin Goch amgylchynu’r byncer yng nghanol Berlin. Cafodd eu cyrff eu llosgi.