RSS

Golwg360

MwyCau 

Arolygwyr y Cenhedloedd Unedig wedi gadael Syria

Awst 31, 2013 08:57


Arlywydd Bashar al-Assad
Mae arolygwyr y Cenhedloedd Unedig sydd wedi bod yn ymchwilio i’r ymosodiad cemegol honedig yn Syria bellach wedi gadael y wlad.

Maen nhw wedi teithio i Libanus ar ôl treulio pedwar diwrnod yn Syria.

Y gred yw y bydd eu hadroddiad yn cael ei gyhoeddi ymhen pythefnos.

Sialens i’r Byd

Mae Arlywydd Obama wedi dweud fod yr ymosodiad honedig yn Namascus yn “sialens i’r byd”. Dywed ei fod yn edrych ar y posibilrwydd o “weithred gyfyngedig, gul.”

Mae’r Unol Daleithiau yn hyderus mai lluoedd yr Arlywydd Bashar al-Assad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol. Dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau, John Kerry, fod 1,429 o bobl wedi marw o ganlyniad i’r ymosodiad, gan gynnwys 426 o blant.

Roedd yn rhaid i’r byd weithredu, meddai. Galwodd Arlywydd al-Assad yn “lofrudd.”

Ffrainc yn cefnogi’r Unol Daleithiau

Mae’n annhebygol y bydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cytuno ar unrhyw ymosodiad milwrol ar Syria oherwydd bod Rwsia yn gwrthwynebu’r fath ymosodiad. Mae Ffrainc yn cefnogi bwriad yr Unol Daleithiau i weithredu’n filwrol.

Ni fyddai Prydain yn rhan o unrhyw weithredu milwrol yn Syria ar ôl i Senedd San Steffan wrthwynebu hynny.

Mae David Cameron wedi gorfod derbyn na fydd lluoedd arfog gwledydd Prydain yn cymryd rhan mewn ymosodiad ar Syria.

Fe fu’n rhaid i Brif Weinidog Prydain ildio ar ôl i Dŷ’r Cyffredin greu syndod nos Iau trwy wrthod cynnig y Llywodraeth i ymosod “pe bai angen”.

Fe bleidleisiodd 30 o Geidwadwyr a naw o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn erbyn eu llywodraeth glymblaid eu hunain, gyda mwyafrif o 13 yn y diwedd yn erbyn y cynnig.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.