Salman Khan Llun: salmanonline.et
Fe fydd yr actor Bollywood, Salman Khan yn mynd gerbron llys fis nesaf, wedi’i gyhuddo o ddynladdiad a gyrru’n ddiofal.

Cafodd un dyn ei ladd a chafodd pedwar o bobol eu hanafu yn 2002 pan yrrodd Khan, 47, ei gar i mewn i grŵp o bobol ddigartref ar bafin ym Mumbai.

Mae Khan wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau, ac fe fydd yn sefyll ei brawf ar Awst 19.

Fe allai wynebu cyfnod o 10 mlynedd dan glo pe bai’n cael ei ganfod yn euog.

Mae’n un o sêr y diwydiant ffilm yn India, ac mae e wedi ymddangos mewn bron i 100 o ffilmiau yn ystod ei yrfa.