Nelson Mandela
Mae cyflwr cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela wedi dangos arwyddion ei fod e’n gwella yn yr ysbyty.

Daeth y cyhoeddiad trwy Arlywydd presennol y wlad, Jacob Zuma, fu’n ymweld ag e heddiw.

Cafodd pen-blwydd ‘Madiba’ yn 95 oed ei ddathlu ddydd Iau diwethaf.

Gofynnodd Jacob Zuma i’w bobol barhau i feddwl am Nelson Mandela a gweddïo drosto.

Bu yn yr ysbyty ers Mehefin 8, yn dioddef o haint ar ei ysgyfaint.

Cafodd teyrngedau eu rhoi iddo ar achlysur ei ben-blwydd, ac fe gafodd Diwrnod Cenedlaethol Nelson Mandela ei neilltuo ar ei gyfer.

Treuliodd nifer o bobol 95 o funudau’n gwneud gwaith yn y gymuned i nodi cyfraniad Nelson Mandela i’w genedl.