Arwyddion o wellhad?
Mae cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela wedi dangos arwyddion ei fod wedi gwella ychydig.

Mae’r gŵr 94 oed yn dal mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog yn yr ysbyty yn Pretoria.

Mewn datganiad, dywedodd Arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma ei fod e wedi cael y newyddion diweddaraf gan y tîm meddygol sydd wedi bod yn trin Nelson Mandela.

Dywedodd Zuma ei fod e’n well na’r noson gynt pan wnaeth e ymweld ag e.

Penderfynodd Zuma ohirio taith i wlad Mozambique heddiw.

Mae’r teulu wedi bod yn casglu blodau a theyrngedau sydd wedi cael eu gadael y tu allan i’r ysbyty.

Dywedodd wyres Nelson Mandela yn gynharach heddiw fod cyflwr ei thad-cu yn dal yn ddifrifol ond yn sefydlog.

Ychwanegodd Makaziwe Mandela fod y sefyllfa wedi bod yn anodd i’r teulu, yn enwedig oherwydd sylw’r cyfryngau, ond eu bod nhw’n dal i fyw mewn gobaith.

Mae disgwyl i’r teulu aros yn yr ysbyty gyda fe.

Bu yn yr ysbyty ers Mehefin 8, yn dioddef o haint ar ei ysgyfaint.