Llosgfynydd Fuji, Japan
Mae llosgfynydd eiconig yn Japan wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Mynydd Fuji yn lle pwysig yn ddiwylliannol ac yn grefyddol i bobol y wlad, ac roedd miloedd yn gwylio ar sgriniau mawr mewn neuaddau cyhoeddus heddiw wrth i’r mynydd 3,776m (12,460tr) ddod i’r brig mewn pleidlais gan UNESCO.

Roedd gweiddi a llawenhau pan gyhoeddwyd y canlyniad yn Phnom Penh, Cambodia.

Mae 960 o lefydd yn y byd yn arddel teitl ‘Safle Treftadaeth y Byd’, yn cynnwys Castell Caernarfon a Big Pit yng Nghymru.

Y safleoedd eraill

Fe gafodd mynydd arall ei roi ar y rhestr yn gynharach yr wythnos hon – llosgfynydd Etna yn yr Eidal.

Ac ardal fynyddig arall i dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd ydi Parc Cenedlaethol Tajik, sy’n cynnwys llynnoedd mynyddoedd yn Tajikistan.

Fe dderbyniodd un o ryfeddodau Namibia yn Affrica statws am y tro cynta’, wrth i anialwch Môr Tywod Namib gyrraedd y rhestr.

Mae parc natur El Pinacate a Gran Desierto de Altar yn Mecsico hefyd yn ‘Safleoedd Treftadaeth y Byd’ bellach.