Vladimir Putin
Fe allai anfon arfau i wrthryfelwyr yn Syria, olygu rhoi bomiau yn nwylo’r un math o bobol â’r rhai laddodd y drymiwr, Lee Rigby.
Dyna rybudd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Roedd Mr Putin yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg i ddwyn cynhadledd yr G8 yng Ngogledd Iwerddon i ben.
Fe ddaeth cytundeb yn y gynhadledd a allai arwain at gynhadledd heddwch er mwyn ceisio heddwch yn y Dwyrain Canol.
Fe wrthwynebodd Rwsia wneud sylw ar ddyfodol Bashar Assad, felly doedd y datganiad ar y cyd ddim yn cynnwys cyfeiriad at Syria.