Mae un o siaradwyr cynhenid olaf yr iaith Livonian wedi marw. Roedd Grizelda Kristin yn byw yng Nghanada ar ôl ffoi o Latfia yn 1944. Roedd hi’n 103 mlwydd oed.

Siaradodd Grizelda Kristin yr iaith hyd nes ei blynyddoedd olaf trwy ysgrifennu barddoniaeth ac roedd yn rhan flaenllaw o’r gymuned Lifonaidd.

Mae’n debyg fod Grizelda Kristin yn un o gynrychiolwyr olaf yr iaith gynhenid a dyma ei iaith gyntaf. Yn ystod y 1920au fe beidiodd rhieni Lifonaidd siarad yr iaith â’u plant ac yn ôl sensws 1935, dim ond un plentyn o dan bump oed oedd yn gallu siarad yr iaith.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhai olaf a fedrai siarad yr iaith wedi marw, gan gynnwys Paulīne Kļaviņa yn 2002 a Erna Vanaga yn 2010.

Mae cwrs yn cael ei gynnal yn Latfia yn ystod yr haf i’r rhai sydd â diddordeb dysgu’r iaith. Mwy o wybodaeth ar gael yn www.pitagi.lv