Yn syth wedi'r digwyddiad - Michael Christian, a'i gyd-gyflwynydd radio, Mel Greig
Mae’r ddau DJ a wnaeth alwad ffôn ffug i’r ysbyty lle’r oedd Duges Caergrawnt yn glaf ar y pryd, wedi derbyn gwobr am y jôc.

Fe enillodd Michael Christian y wobr ‘Next Top Jock’ – cystadleuaeth fewnol gan y cwmni darlledu Southern Cross Austereo (SCA). Ei wobr yw taith i Los Angeles i gael gweld stiwdios Kiss.

Beirniadaeth

Ond mae’r penderfyniad i roi’r wobr iddo wedi denu beirniadaeth fawr yn Awstralia ac yng ngwledydd Prydain.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r nyrs, Jacintha Saldanha, yn farw mewn fflat dridiau wedi iddi gymryd yr alwad ffug gan y ddau DJ o Awstralia.

Roedd hi’n gweithio yn Ysbyty’r Brenin Edward VII, lle’r oedd Duges Caergrawnt yn cael ei thrin am salwch bore difrifol.

Mae Gweinidog Cyfathrebu Awstralia wedi dweud fod y wobr yn dangos “diffyg chwaeth”.