Marathon Boston
Mae swyddog gyda’r FBI wedi saethu dyn yn farw ar ôl iddo droi’n dreisgar wrth gael ei holi am y bomiau yn marathon Boston.

Digwyddodd y saethu yn Orlando, Florida, lle’r oedd yr FBI yn cyfweld y dyn am y ffrwydradau ar ddiwedd y ras.

Dywedodd llefarydd ar ran yr FBI bod y swyddog wedi saethu’r dyn oherwydd ei fod yn fygythiad i ddiogelwch yr awdurdodau.

Mae swyddog yr FBI wedi ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.