Mae cyfres o gorwyntoedd wedi taro taleithiau Oklahoma, Kansas ac Iowa yn yr UDA dros nos.

Bu’n rhaid i drigolion mewn parc yn nhref Shawnee symud o’u cartrefi oherwydd rwbel a darnau o bren yn torri i ffwrdd o adeiladau.

Cafodd y corwyntoedd eu hachosi gan storm oedd wedi lledu rhwng Tecsas a Minnesota.

Dydy’r awdurdodau ddim yn gwybod eto faint o bobol gafodd eu hanafu, gan fod tractors a threlars wedi troi drosodd ar y briffordd.

Ond cafodd dyn 79 oed ei ladd, a chafodd ei gorff ei ddarganfod ar y stryd.

Ac roedd adroddiadau bod chwech o bobol wedi’u hanafu yn nhref Pottawatomie gerbron dinas Oklahoma.

Cafodd dwsinau o gartrefi eu difrodi trwy Oklahoma.

Roedd miloedd o bobol heb drydan yn nhref Wichita, Kansas yn dilyn y corwynt yno, ond wnaeth y corwynt ddim cyrraedd cartrefi.

Roedd y gwasanaethau brys yn barod am y corwyntoedd, gyda rhybuddion wedi’u rhoi dros y penwythnos.

Mae rhybuddion am ragor o dywydd garw heddiw.