Bydd yn rhaid i’r seren bop Justin Bieber dalu miloedd o Ewros i noddfa anifeiliaid yn Munich, sydd wedi bod yn gofalu am ei fwnci ers i’r awdurdodau gymryd meddiant o’r anifail.

Roedd Bieber wedi methu darparu’r dogfennau cywir ar gyfer cludo Mally’r mwnci pan laniodd yn Yr Almaen ar Fawrth 28.

Yn ôl Thomas Meister mae gan y canwr pop tan hanner nos heno i hawlio’r mwnci a thalu’r biliau ar gyfer ei ofal, ei fwyd ac ymweliadau’r ffariar i’r noddfa yn Munich.

Mae’n debyg bod cwmni rheoli Bieber wedi gofyn i’r noddfa basio’r mwnci ymlaen i sŵ, ond nid yw’r awdurdodau wedi derbyn cais ffurfiol i hynny ddigwydd.