Mae adeilad pedwar llawr oedd yn cael ei adeiladu yn Rwanda wedi dymchwel, gan ladd o leiaf chwech o weithwyr ac anafu dwsinau o bobl eraill, meddai’r heddlu.

Mae’r awdurdodau yno yn chwilio am bobl yn y rwbel ar ôl i’r adeilad ddymchwel yn ardal Nyagatare.

Cafodd o leiaf 30 o weithwyr eu hanafu ac maen nhw’n cael triniaeth mewn ysbyty gerllaw, meddai Christophe Semuhungu, llefarydd ar ran yr heddlu.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth achosodd i’r adeilad ddymchwel neu faint o bobl sy’n dal yn gaeth yn y rwbel.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae digwyddiadau yn ymwneud ag adeiladau’n dymchwel wedi bod yn fwy cyffredin mewn gwledydd yn nwyrain a chanol Affrica wrth i ddatblygwyr anwybyddu rheolau adeiladu er mwyn arbed costau.

Ym mis Mawrth roedd adeilad wedi dymchwel yn ninas Dar es Salaam yn Tanzania gan ladd o leiaf 30 o bobl.