Mae ffrwydriad mewn adeilad pum-llawr yn ardal wledig Champagne yn Ffrainc, wedi lladd o leia’ ddau o bobol ac anafu naw arall.

Mae’r chwilio yn parhau am fwy o bobol yn y rwbel.

Mae dros 100 o weithwyr achub, ymladdwyr tân, arbenigwyr nwy a sgwadiau efo cŵn wedi cael eu galw i’r safle yn ninas Reims, i’r dwyrain o’r brifddinas, Paris.

Mae Maer dinas Reims, Adeline Hazan, wedi ymddangos ar sianel deledu BFM yn Ffrainc yn dweud fod “ffrwydriad pwerus iawn” wedi bod, gan chwythu ffenestri tai ac adeiladau gerllaw hefyd.

Yn ôl Adeline Hazan, mae cyrff y ddau sydd wedi marw yn dal i fod o dan y rwbel, ac mae’n ymddangos mai ffrwydriad nwy oedd achos y ddamwain.