Gaddafi - nifer o'i gefnogwyr yn dal mewn swyddi allweddol, meddai protestwyr
Mae tua 200 o ddynion arfog wedi amgylchynu’r Weinyddiaeth Dramor yn Tripoli, prifddinas Libya. Maen nhw’n mynnu y dylai’r weinyddiaeth ail-gyflogi’r milwyr a helpodd y Gorllewin i drechu’r cyn-unben, Muammar Gaddafi.

Yn ôl adroddiadau, mae 38 o lorïau a thryciau, rhai efo gynnau mawr arnyn nhw, wedi amgylchynu’r adeilad ben bore heddiw.

Mae’r dynion yn honni fod nifer o gefnogwyr yr hen drefn wleidyddol yn dal swyddi allweddol yn y weinyddiaeth, a bod hynny’n llesteirio unrhyw newid yn y drefn.

Mae trafodaethau rhwng y protestwyr a’r llywodraeth yn mynd rhagddyn, a does neb o’r protestwyr wedi mynd i mewn i’r adeilad.