Mae plaid genedlaethol newydd, Sortu, wedi cael ei lansio yng Ngwlad y Basg heddiw, wyth mis ar ôl derbyn caniatâd gan lys uchaf Sbaen.

Cafodd Sortu gymeradwyaeth y Llys Cyfansoddiadol ar ôl profi nad oes ganddi gysylltiad uniongyrchol â’r mudiad terfysgol ETA, gan ei bod yn wahanol i Batasuna, sef adain wleidyddol waharddedig ETA.

Yn ei chyngres gyntaf, cafodd Hasier Arraiz ei gadarnhau fel llywydd, a darllenwyd gan yr ysgrifennydd cyffredinol Arnaldo Otegi, sydd mewn carchar. Cafodd Mr Otegi ei garcharu am 10 mlynedd yn 2009 am geisio atgyfodi Batasuna.

Dywed yn ei lythyr fod gwladwriaethau Sbaen a Ffrainc “yn parhau i wadu statws Gwlad y Basg fel cenedl, a’i hawl i hunan-lywodraeth”.