Oscar Pistorius
Mae’r rhedwr Paralympaidd Oscar Pistorius wedi dychwelyd i’r llys ar drydydd diwrnod y gwrandawiad i geisio penderfynu a fydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp yn fwriadol.

Ond fe ddatgelwyd bod y ditectif sy’n arwain yr ymchwiliad hefyd yn wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio.

Mae disgwyl i’r Ditectif Hilton Botha, sydd wedi rhoi tystiolaeth yn erbyn Pistorius yn ystod y gwrandawiad yr wythnos hon, ymddangos gerbron llys ym mis Mai ar saith cyhuddiad o geisio llofruddio, mae gwasanaeth Heddlu De Affrica wedi cadarnhau.

Yn ôl yr heddlu, roedd Botha a dau blismon arall wedi tanio gynnau wrth geisio atal fan mewn digwyddiad ym mis Hydref 2011.

Fe fydd Oscar Pistorius yn darganfod heddiw a fydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Mae wedi cyfaddef iddo saethu’r fodel 29 oed ond mae’n honni ei fod yn credu mai lleidr neu ladron oedd yn yr ystafell ymolchi.

Dywedodd ei fod wedi tanio’r gwn yn y tywyllwch am fod ganddo ofn troi’r golau ymlaen.

Ar ôl sylweddoli ei gamgymeriad, fe dorrodd i mewn i’r ystafell a chario corff ei gariad i lawr y grisiau.

Ddoe, bu’n rhaid i Botha gyfaddef nad oedd gan yr erlyniad unrhyw dystiolaeth i herio honiad Pistorius ei fod wedi lladd ei gariad drwy ddamwain.