Oscar Pistorius yn y Gemau Paralympaidd
Mae’r seren Paralympaidd Oscar Pistorius wedi dweud ei fod “mewn cariad dyfn” efo Reeva Steenkamp ac nad oedd yn bwriadu ei lladd yn ei gartref yn Pretoria, De Affrica.

Roedd Pistorius yn ymddangos gerbron llys yn Pretoria er mwyn ceisio cael ei ryddhau ar fechniaeth ar gyhuddiad o lofruddio’i gariad.

Fe ddarllenwyd datganiad ar ei ran am yr hyn y mae e’n dweud ddigwyddodd.

Dywedodd Pistorius trwy’i gyfreithiwr ei fod ef a Reeva Steenkamp wedi mynd i’r gwely tua 10 o’r gloch y noson honno ac nad oedd yn gwisgo ei goesau prosthetig.

Clywodd swn yn yr ystafell ymolchi ac fe wnaeth estyn am wn 9mm yr oedd yn ei gadw o dan y gwely ar ôl derbyn bygythiadau i’w fywyd. Saethodd am yr ystafell gan sylweddoli’n sydyn nad oedd Ms Steenkamp yn y gwely.

Gwisgodd ei goesau, cerddodd am yr ystafell a maluriodd y drws oedd dan glo gyda bat criced.

Cariodd ei gariad i lawr y grisiau ond fe wnaeth hi farw yn ei freichiau meddai.

Dywedodd hefyd yn y datganiad nad oedd yn credu y dylai gael ei gyhuddo o lofruddiaeth, yn enwedig llofruddiaeth oedd wedi ei gynllunio o flaen llaw gan nad oedd ganddo gynllun o’r fath.

Roedd Pistorius yn ysgwyd ac yn wylo wrth i’r datganiad gael ei ddarllen a chafodd yr achos ei ohirio tan yfory.

Angladd

Tra roedd Pistorius o flaen ei well cafodd corff Reeva Steenkamp ei losgi mewn gwasanaeth coffa yn ei thref enedigol yn Port Elizabeth.