Ynysoedd Dedwydd
Bu’n rhaid i’r heddlu orfodi dros 100 o deithwyr i adael awyren Ryanair oedd ar fin gadael Yr Ynysoedd Dedwydd  ar ôl ysgarmes rhyngddyn nhw a’r criw.

Yn ôl y papur newydd La Provincia roedd Ryanair wedi ceisio codi pris ychwanegol ar un teithiwr am ddod a bag llaw ychwanegol ar yr awyren.

Dywedodd Ryanair bod teithwyr y “wedi mynd yn aflonyddgar a gwrthod gwrando ar gyfarwyddiadau’r criw”.

Roedd y peilot yn paratoi i hedfan o faes awyr Guacimeta ar ynys Lanzarote i Charleroi yng ngwlad Belg pen ddechreuodd yr ymladd.

Dywedodd yr heddlu bod pob un o’r teithwyr wedi gorfod gadael yr awyren. Yn y pen draw dim ond 64 o’r 168 o deithwyr gafodd ganiatâd i hedfan.

Bu’n rhaid i’r gweddill hedfan gyda chwmnïau eraill neu dreulio noson yn Lanzarote.

“Penderfynodd yr heddlu na fyddai’r grŵp cyfan yn cael hedfan am resymau diogelwch,” meddai Ryanair.