“Wnaeth neb wneud cwyn” am y fideo byw oedd yn cael ei ffrydio gan ymosodwr Chrsitchurch yn Seland Newydd tra’r oedd yn ymosod ar Fwslimiaid mewn mosgiau, meddai gwefan gymdeithasol Facebook.

Fe gymrodd hi 29 munud – a 12 munud ar ôl iddi orffen – cyn i’r defnyddiwr cyntaf rybuddio’r cwmni am y ffilm oedd wedi cael ei dangos  ar y wefan.

Dywed Facebook ei fod wedi cael gwared ag 1.5 miliwn o fideos o’r ymosodiad ar draws y byd mewn 24 awr ar ôl y saethu.

Ond mae’r cwmni wedi cael ei feirniadu’n hallt am y ffordd wnaeth hi adael cynnwys o’r fath gael ei ffrydio ddydd Gwener ddiwethaf (Mawrth 15).

Cafodd 49 o bobol eu lladd, ac mae 30 yn dal i fod yn yr ysbyty ar ôl y saethu mewn dau Fosg yn y ddinas.

“Angen cymryd cyfrifoldeb”

Mae Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, yn dweud fod cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol “angen cymryd cyfrifoldeb” am sicrhau nad yw cynnwys o’r fath yn cael ei roi ar eu platfformau.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol gwledydd Prydain, Sajid Javid, hefyd wrth y cwmnïau mai “digon yw digon.”

“Mae angen i chi wneud mwy i atal hyrwyddo eithafiaeth dreisgar rhag cael ei hyrwyddo ar eich llwyfannau. Mae angen i chi gymryd rywfaint o berchnogaeth,” meddai.