Laura Jones wedi llwyddo i redeg saith marathon mewn blwyddyn

Diweddarwyd am  
Laura Jones a redodd saith marathon mewn blwyddyn

Laura Jones a redodd saith marathon mewn blwyddyn

Llun Liz Bowen

Mae Laura Jones yn ar ben y byd wedi iddi gwblhau ei her ‘saith marathon mewn blwyddyn’ ar Kilimanjaro.

Y llynedd, addawodd y ferch 29 mlwydd oed, a aned yn Abertawe, i redeg saith marathon mewn blwyddyn, a hynny heb erioed fod wedi rhedeg ymhellach na 5km.

Ers hynny mae wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn mynd i’r afael â 26.2 milltir ar rai o dirweddau anoddaf y byd, mewn amodau heriol.

Ymhlith y llefydd eraill lle wnaeth hi gyflawni’r her mae Patagonia, Seattle, Yukon a Rottnest. “Roedd marathon Kili yn weithred olaf anodd, roedd y tymheredd yn boeth ac yn llaith – tua 30C,” meddai Laura Jones.

“Roedd y cwrs bron i 50 y cant i fyny’r bryn, a oedd, yn gwbl onest, yn teimlo nad oedd byth yn dod i ben.

“Pan newidiais gyfeiriad a dechreuodd y cwymp i’r llinell orffen, roedd gwres canol dydd yn llethol a bu’n rhaid i mi wthio fy hun.”

Cyfaddefodd Laura Jones er bod yr her yn ymddangos yn uchelgeisiol, roedd hi’n cael ei hysgogi gan ei hawydd i wthio ei hun, ysbrydoli eraill a chodi £2,500 ar gyfer y Sgowtiaid.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed