Yn wahanol i ddaeargryn Seland Newydd, doedd dim difrod mawr yn Alasga heddiw
Mae daeargryn yn mesur 6.1 ar raddfa Richter, wedi ysgwyd ynysoedd oddi ar Alasga yng Ngogledd America, ond does dim rhybudd o tswnami wedi ei gyhoeddi.

Yn ôl yr US Geological Survey, roedd canolbwynt y daergryn rhyw 43km danddaear, a thua 604 milltir i’r de-orllewin o Ynysoedd Aleutia.

Doedd dim difrod mawr yn nhre’ Anchorage, un o’r llefydd agosa’ at y canolbwynt.

Ond fe deimlodd pobol y cryndod yn Cold Bay, tua 25 milltir i ffwrdd o King Cove.