Pengwiniaid Affrica - dim ond 60,000 ar ôl
Mae gwyddonwyr yn Ne Affrica yn gosod offer lloeren mewn pengwiniaid er mwyn tracio be’ sy’n digwydd i’r adar unwaith y maen nhw’n cael eu gollwng i’r gwyllt.

Maen nhw’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth, ryw dydd, i arbed y bridiau sy’n ofnadwy o brin.

Fe gafodd yr aderyn cyntaf i gymryd rhan yn y prosiect ei ryddhau fis diwetha’, ac mae digwyl i bump neu chwech ohonyn nhw gael eu rhyddhau dros y misoedd nesa’.

Mae’r pengwin Affrica, sy’n hynod o drwsgwl ar y lan ond yn heliwr effeithiol ac urddasol yn y môr, yn frid unigryw i Dde Affrica.

Mae niferoedd wedi cwympo o 4miliwn yn nechrau’r 1990au, i 60,000 yn 2010. Ffordd dyn o fyw sydd i gyfri’ am y gostyngiad, yn ôl elusen gwarchod yr adar.