Larry Hagman, JR yn Dallas
Mae Larry Hagman, yr actor a fu’n chwarae’r barwn olew J R Ewing yn y gyfres ddrama o’r 1980au, Dallas, wedi gwerthu tipyn o’i eiddo mewn arwerthiant.

Ymhlith y trugareddau personol a werthwyd yn Beverly Hills, yr oedd cyfrwy arian a gododd $80,000.

Yr eitemau eraill a werthwyd am symiau sylweddol ydi portread o un o gyd-actorion Hagman, Jim Davis, a aeth am $38,000; replica o botel o gyfres deledu gynharach Hagman, I Dream of Jeannie, a werthwyr am dros $10,000, a dau bistol am dros $4,000.

Roedd yr actor 79 mlwydd oed yn bresennol yn yr arwerthiant. Fe ddisgrifiodd yr eitemau I’r dorf yn yr ystafell werthu, cyn cymryd ei sedd gyda gweddill y gynulleidfa er mwyn gwrando ar y bidio.

Fe werthwyd y casgliad cyfan o eitemau am dros $500,000.