Mae un o gefnogwr tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn siwio’r clwb ar ôl cael ei daro’n anymwybodol gan bêl yn ystod sesiwn hyfforddi.

Dywedodd cadeirydd Sunderland AFC, Niall Quinn wrth raglen Total Sport bod cefnogwr yn bwriadu mynd a’r clwb i’r llys yn dilyn y ddamwain.

Roedd cyflwynydd y rhaglen radio wedi gofyn i’r cadeirydd a fyddai’n ystyried caniatáu i gefnogwyr wylio sêr y clwb yn hyfforddi.

“Cafodd un o’r cefnogwyr ei anafu,” atebodd Niall Quinn.

“Dw i’n credu fod Djibril Cisse wedi methu gôl o 20 llath.

“Dw i’n chwerthin am y peth nawr, ond fe gafodd y cefnogwr ei daro’n anymwybodol. Roedd yn eithaf difrifol.

“Mae’r cefnogwr hwnnw yn ceisio ein siwio ni rŵan.”

Gwrthododd Sunderland AFC gynnig unrhyw sylw pellach ar y mater.

Chwaraeodd Djibril Cisse dros Sunderland 38 gwaith yn ystod tymor 2008-9, gan sgorio 11 o weithiau. Roedd ar fenthyg o Marseille ar y pryd.