Tutankhamun (Llun: Wikipedia)
Mae gwely a choets angladdol Tutankhamun ymhlith yr eitemau sydd wedi cael eu symud o un ochr dinas Cairo i’r llall ar gyfer arddangosfa mewn amgueddfa newydd.

Bydd ei holl eitemau’n cael eu symud yn raddol i’r Amgueddfa Fawr Eifftaidd, sy’n cael ei hadeiladu ar gyrion pyramidiau Giza.

Cafodd yr eitemau eu symud mewn bocsys pren a’u cludo 13.6 o filltiroedd wrth iddyn nhw gael eu gwarchod gan geir yr heddlu. Fe fyddan nhw’n cael eu cadw mewn ystafell arbennig wrth iddyn nhw addasu i’w hawyrgylch newydd.

Mae symud eitemau Tutankhamun yn fater sensitive yn y wlad ers 2014, pan gafodd barf ar fasg ei ddifrodi. Cafodd glud ei ddefnyddio i’w drwsio, ond fe achosodd hynny ragor o ddifrod.

Cafodd bedd Tutankhamun ei ddarganfod gan yr archaeolegydd Howard Carter yn Luxor yn 1922.

Daeth yn arweinydd yr Aifft yn 10 oed yn 1333 Cyn Crist, ac roedd yn arweinydd am naw mlynedd.

Bydd oddeutu 100,000 o eitemau yn yr amgueddfa newydd, ac fe allai’r amgueddfa newydd fod yn hwb i ddiwydiant twristiaeth y wlad, sydd wedi dioddef ers yr helynt arweiniodd at ddisodli’r arweinydd Hosni Mubarak yn 2011.