Lembit Opik
Mae cyn-Aelod Seneddol Maldwyn wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i fod yn dad am y tro cyntaf.

Fe fydd Lembit Opik, 52, a’i gyfreithwraig o gymar, Sabina Vankova, 33, yn dod yn rhieni ymhen llai na dau fis.

Yn wreiddiol, roedd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru am gadw’r newyddion yn hollol dawel. Ond fe ddaeth datganiad ganddo yn dweud bod merch fach ar y ffordd yn ystod mis Mehefin.

Mae’r cyn-wleidydd yn dweud ei fod yn teimlo’n “emosiynol” am y peth, a’i fod yn teimlo “cyffro mawr”.

Mae’n fwy o ryfeddod byth, meddai’r cyn-wleidydd, gan iddo gredu am flynyddoedd na allai gael plant o ganlyniad i ddamwain a gafodd yn blentyn.