Felicity a Cet Haf yn cerdded o Lundain i Aberystwyth
Mae cynllunydd ffasiwn ac actores o ardal Aberystwyth ar ganol taith o fwy na 200 milltir yr wythnos hon wrth iddyn nhw ddychwelyd o Lundain ar ddwy droed.

“Does dim rheswm amlwg pam wnaethon ni benderfynu gwneud hyn,” meddai Felicity Haf wrth golwg360.

Esboniodd fod hi a’i chwaer, Cêt Haf, wedi ystyried y peth ers amser cyn penderfynu herio’i hunain i weld a oedd y peth yn bosib.

Mae’r ddwy’n gobeithio cyflawni’r her o fewn pythefnos gan gyrraedd Aberystwyth fore ddydd Mercher lle byddan nhw’n cicio’r bar ar y prom.

‘Nid ras’

“Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar frys nac ar ras i orffen chwaith, ni wedi cymryd digon o amser i ffwrdd o’r gwaith,” esboniodd Felicity Haf sy’n gynllunydd dillad.

“Ni’n aros y nos yn y llefydd rhataf ni’n gallu dod o hyd iddyn nhw, felly gwely a brecwast weithiau, Airbnb neu westai– ac mae hynna’n antur yn ei hun.”

Croesi’r ffin

Bellach mae’r ddwy wedi croesi’r ffin yn ôl i Gymru ond roedd dod i adnabod rhannau o Loegr yn agoriad llygad i’r ddwy, meddai Felicity Haf.

“Yn bersonol, dydw i erioed wedi treulio lot o amser yn ganol Lloegr, ac mi oedd yn brofiad i weld yr ardaloedd hardd, cwrdd â gwahanol bobol a hefyd gweld y gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlawd a’r cyfoethog iawn.”

Dyma’r ddwy yn croesi’r ffin ger y Gelli Gandryll dros y penwythnos…