Derwen Brimmon
Mae derwen o Bowys wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn ar gyfer holl wledydd Ewrop.

Derwen Brimmon o ardal Y Drenewydd gafodd ei dyfarnu’n ail orau.

Mae’r goeden wedi bod yn rhan bwysig o fywyd y teulu sydd wedi’i gwarchod ers 1901, ond yn ddiweddar, fe ddaeth bygythiad y gallai gael ei chwympo er mwyn caniatau gwaith ar ffordd osgoi’r Drenewydd.

Ond, trwy ddeiseb a arwyddwyd gan 5,000 o bobol, fe gafodd y goeden ei hachub.