Jack McKendrick a Sandra Jones (Llun: Gareth Fuller/PA Wire)
Cwpl o Gymru sydd wedi ennill Pencampwriaeth Cario Gwragedd Prydain yn Swydd Surrey eleni.

Jack McKendrick a’i bartner Sandra Jones o Abergele ddaeth i’r brig yn y ras flynyddol yn Dorking, gan ennill casgen o gwrw.

Mae gan y ras reolau llym, sy’n dweud fod rhaid i’r wraig fod dros 18 oed, a bod rhaid iddi wisgo helmed.

Ond does dim rhaid i’r un sy’n cael ei gario fod yn ddynes – gall fod yn ddyn sy’n cael ei gario gan ei wraig!

Mae’r rheolau hefyd yn dweud bod rhaid i’r wraig bwyso dros 50kg ac os nad yw’n cyrraedd y pwysau angenrheidiol, rhaid iddi wisgo sach ar ei chefn sydd wedi’i llenwi â ffa pob neu dun o fwyd arall.

Gall cystadleuwyr ddefnyddio unrhyw ddull o gario’r wraig.

Y cyntaf i groesi’r llinell derfyn sy’n ennill y ras.

Ond mae cosb am ollwng y wraig ar y cwrs – tri cham yn ôl cyn cael symud ymlaen.

Mae’r cwrs yn llawn rhwystrau a dŵr, ac mae’r dorf yn cael eu hannog i daflu dŵr at gystadleuwyr yn ystod y ras.

Gwobrau

Ar ôl ennill y ras, mae Jack McKendrick a Sandra Jones wedi ennill £250 a lle ym Mhencampwriaeth Cario Gwragedd y Byd.

Ond mae gwobr i’r pâr sy’n gorffen y ras yn y safle olaf hefyd – Pot Noodle a bwyd ci – a phwys o selsig i’r wraig drymaf yn y ras!