Wrth i hyrddiadau hyd at 94 milltir yr awr gael eu cofnodi yng Nghymru yn ystod Storm Doris, mae coed mawr ledled y wlad wedi’u llorio.

Mae pontydd Cleddau, Britannia a Sir y Fflint bellach ar gau, ac mae modurwyr yn cael eu cynghori gan heddluoedd i beidio â mentro ar y ffyrdd os nad oes raid gadael cartref.

Dyma goed cadarn Ceredigion yn cael eu siglo yn ystod gwynt mawr fore Iau…