Llysiau'r dial (Llun: Wikimedia Commons)
Mae perchennog byngalo ym Maesteg wedi ennill iawndal gan Network Rail ar ôl pedair blynedd o frwydro yn erbyn y cwmni.

Mae llysiau’r dial ar gartref Robin Waistell, sydd ger llinell rheilffordd y dref.

Roedd wedi bod yn dadlau nad oedd modd iddo werthu ei gartref gan fod y cwmni wedi anwybyddu ei gais i ddatrys y sefyllfa.

Ni fydd gan Network Rail yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad a allai olygu costau cyfreithiol o fwy na £100,000.

Roedd wedi bod yn gofyn am iawndal o fwy na £60,000.

Derbyniodd £15,000 yn y pen draw er mwyn talu am sicrwydd ar raglen llys-leiddiad.

Wrth ymateb, dywedodd Network Rail eu bod nhw’n “adolygu’r dyfarniad yn fanwl”.