Dwynwen Haf Wyn
Mae rhannu’r un enw â nawddsant cariadon Cymru yn golygu llawer i Dwynwen Haf Wyn sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn gynhyrchydd gyda’r cwmni teledu Boom Cymru.

Fe fydd y ferch sy’n dod yn wreiddiol o’r Groeslon ger Caernarfon bob tro’n nodi’r ŵyl ar Ionawr 25.

Ac mae’r ŵyl yn cwmpasu ystod ehangach o gariad, meddai, o gymharu â Gŵyl San Ffolant.

“Dydi o ddim fel y Valentines yn Saesneg sydd ella’n canolbwyntio’n fwy ar y cariad rhwng partneriaid,” meddai.

“Mae o’n gyfle i ddathlu cariad at deulu, ffrindiau, gwlad ac iaith.”

Ond er mor arbennig yw’r enw a’r ŵyl iddi hi, mae’n cyfaddef fod yr enw ‘Dwynwen’ wedi peri anhawster i rai o’i chydnabod.

Mae’n esbonio yn y fideo hwn yr amrywiadau gwahanol y mae hi wedi’u cael ar ei henw, gyda ‘Gwin Gwyn’ hyd yn oed yn eu plith…