Cafodd y rownd hon ei chreu drwy gyfuno straeon o’n hadran Rhyngwladol a Rhyfeddodau, gan roi sylw i rai o brif ddigwyddiadau’r byd yn 2016, yn ogystal â rhai o’r straeon o bedwar ban y byd a lwyddodd i godi gwên.

Hon, yn sicr, oedd un o’ch rowndiau gorau chi yng Nghwis Mawr y Flwyddyn eleni.

Serch hynny, roedd ambell gwestiwn yn dal i beri penbleth i rai ohonoch chi, gyda’r atebion yn amrywio’n sylweddol ar gyfer un neu ddau gwestiwn.

Wrth i Donald Trump gael ei ethol yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, roedd 2016 hefyd yn flwyddyn ffarwelio â Fidel Castro ar ôl mwy na hanner canrif wrth y llyw. Ond tybed faint ohonoch chi oedd yn gwybod am ba hyd roedd e’n arweinydd ar Giwba?

Pwy neu beth, tybed, gafodd y bai gan Hillary Clinton am iddi golli’r etholiad?

Dyma’n dadansoddiad ni o brif straeon newyddion y byd yn 2016.

Rownd 3 – Rhyfeddodau’r Byd

1. Pa rapiwr byd enwog wnaeth ddarganfod eleni ei fod yn perthyn i Rodri Fawr, yn ôl gwefan achyddiaeth?

Ateb: Eminem

Yn ôl gwefan ‘Geni’ yn yr Unol Daleithiau, mae modd dilyn hanes teulu Marshall Bruce Mathers – neu ‘Eminem’ – i rai o fawrion Cymru, gan gynnwys Rhodri Fawr a Hywel Dda. Llwyddodd Rhodri Fawr i uno teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Seisyllwg o dan ei reolaeth a chredir mai fe oedd y tywysog cyntaf o Gymru i gael yr ansoddair ‘Mawr’ ar ôl ei enw fel cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau. Atebion cywir: 34%

2. Beth sy’n cael ei roi’n flynyddol gan gariadon i’w gilydd yng Nghatalwnia ar Ebrill 23?

Ateb: Llyfr

Mae Catalwnia’n dathlu ‘La Dia de Sant Jordi’ (Diwrnod San Sior) ar Ebrill 23 gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu i nodi’r achlysur. Yn ôl traddodiad y wlad, mae cyplau yn cyfnewid llyfrau ar y dyddiad y bu farw’r awdur Miguel de Cervantes. Mae Catalwniaid wedi bod yn dathlu’r diwrnod ers 1436, ond mae’r traddodiad o roi llyfrau wedi bodoli ers 1926, blwyddyn marw Cervantes. Atebion cywir: 46%

3. Bu farw Fidel Castro ym mis Tachwedd. Ym mha flwyddyn y daeth i rym yng Nghiwba?

Ateb: 1959

Bu farw Fidel Castro ym mis Tachwedd, ddeng mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i fod yn Arlywydd Ciwba. Ond fe ddaeth i rym yn 1959 ar ôl arwain chwyldro llwyddiannus yn erbyn Fulgencio Batista. Fe fu’n ddraenen yn ystlys yr Unol Daleithiau ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod y Rhyfel Oer, pan gafwyd sawl ymgais gan y gwasanaethau cudd i’w ladd. Ei frawd, Raul, yw Arlywydd presennol y wlad. Atebion cywir: 50%

4. Pwy neu beth a gafodd y bai gan Hillary Clinton am iddi golli etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau eleni?

Ateb: FBI

Penderfyniad yr FBI i ymchwilio i ddefnydd ymgeisydd arlywyddol yr Unol Daleithiau o gyfri e-bost personol yn y gwaith oedd y rheswm a gafodd ei gynnig gan Hillary Clinton ar ôl iddi golli’r etholiad yn erbyn Donald Trump. Roedd hi’n honni ei bod hi ar y blaen yn y ras cyn i gyfarwyddwr yr FBI, James Comey roi gwybod i Gyngres y wlad am yr ymchwiliad. Serch hynny, doedd yr ymchwiliad ddim wedi dod o hyd i unrhyw awgrym o ddrwgweithredu, ond roedd gobeithion Hillary Clinton eisoes wedi’u niweidio erbyn yr wythnos olaf o ymgyrchu. Fe ddywedodd 4% ohonoch chi mai ei gŵr Bill a 2% ohonoch chi mai’r ddrwg-enwog Monica Lewinsky a’i pherthynas â Bill oedd y drwg yn y caws. Atebion cywir: 65%

5. Pa ganwr, fu farw eleni, oedd testun y gân ‘Y Bardd o Montreal’ gan Bryn Fôn?

Ateb: Leonard Cohen

“I remember you well at the Chelsea Hotel”. Wel, “in the Chelsea Hotel” oedd geiriau gwreiddiol Leonard Cohen. Stori yw hon am y canwr o Montreal yn cwrdd â Janis Joplin mewn lifft yn y gwesty adnabyddus yn Efrog Newydd. Yn ôl Cohen, dywedodd Joplin wrtho ei bod hi’n chwilio am Kris Kristofferson. Dyma Cohen yn esgus mai fe oedd Kristofferson, ac fe gafodd y pâr brynhawn gwerthchweil! Atebion cywir: 86%

6. O ba dalaith y daw Geordan Burress, yr Americanes sydd wedi dod i amlygrwydd yn y Gymru Gymraeg eleni ar ôl mynd ati i ddysgu Cymraeg?

Ateb: Ohio

Tra’n gwrando ar gerddoriaeth Gruff Rhys y cafodd Geordan Burress o Cleveland, Ohio ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg. Mae hi’n dysgu ers dros bedair blynedd, a chyhoeddodd hi fideo Youtube ym mis Chwefror yn dweud pam a sut y bu iddi fynd ati. Mae’r fideo wedi cael ei gwylio mwy na 7,700 o weithiau. Mae hi bellach yn codi arian drwy wefan codi arian i ddod i Gymru yn ystod y flwyddyn. Atebion cywir: 47%

7. Pa Americanwr oedd y canwr cyntaf i ennill Gwobr Lenyddiaeth Nobel?

Ateb: Bob Dylan

Fe wobrwywyd y canwr protest 75 mlwydd oed, sydd wedi dylanwadu ar sawl artist yn y Sïn Gerddoriaeth Gymraeg, am “greu mynegiant barddonol o fewn traddodiad canu Americanaidd”. Atebion cywir: 92%

8. Roedd Dr Tommy George, fu farw ym mis Awst, yn arbenigwr ar ieithoedd brodorol pa lwyth?

Ateb: Aborijini

Dyma’r cwestiwn y cafwyd yr atebion mwyaf amrywiol iddo yn y rownd hon. Dim ond 32% ohonoch chi oedd yn gwybod yr ateb cywir, gyda 29% ohonoch chi’n dweud Maori, 25% ohonoch chi’n dweud Maasai Mara a 14% ohonoch chi’n dweud Zulu. Dr Tommy George oedd yr unig un yn Awstralia oedd yn medru’r iaith Ku Ku Thaypan, un o bedair iaith yr Aborijini oedd yn cael ei siarad yn Queensland.

9. Beth yw enw’r wisg a gafodd ei gwahardd o draethau Ffrainc eleni?

Ateb: Burkini

Ychydig iawn o amheuaeth oedd gyda chi wrth ateb y cwestiwn hwn. 95% ohonoch chi atebodd y cwestiwn hwn yn gywir – a 2% ohonoch chi’n mynd am y ‘Mankini’ a ddaeth yn adnabyddus yn ffilmiau ‘Borat’ Sacha Baron Cohen! Mae’r Burkini yn wisg sy’n gorchuddio rhan fwya’r corff, yn yr un modd ag y mae’r Burka, ac mae’n chwarae ar y cyfuniad rhwng y burka a’r bikini.

10. Beth yw enw’r firws a darodd Frasil eleni?

Ateb: Zika

Unwaith eto, ychydig iawn o drafferth gawsoch chi gyda’r cwestiwn hwn, gydag 89% ohonoch chi’n cynnig yr ateb cywir. Gyda llygaid y byd ar Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio yn 2016, roedd pryderon y byddai’r firws yn gysgod tros y digwyddiad, gyda nifer o sêr byd y campau’n tynnu’n ôl oherwydd eu gofidion am deithio i Frasil. Fe ledodd yr haint i nifer o wledydd, ond daeth cadarnhad erbyn mis Tachwedd nad oedd yn argyfwng rhyngwladol bellach.

11. Cafodd Oscar Pistorius ei garcharu eleni am ladd ei gariad. Beth oedd ei henw?

Ateb: Reeva Steenkamp

Saethodd Oscar Pistorius ei gariad, Reeva Steenkamp yn farw ar Ddydd San Ffolant 2013, gan honni ei fod e’n credu bod lleidr yn eu cartref yng nghanol y nos. Cafodd hi ei saethu nifer o weithiau drwy ddrws yr ystafell ymolchi. Cafodd e ddedfryd yn 2014 o bum mlynedd dan glo am fod yn gyfrifol am ladd ei gariad. Cafodd ei ryddhau er mwyn apelio, a’i gadw dan glo yn ei gartref am y tro, cyn iddo gael ei ganfod yn euog o lofruddio fis Mehefin 2016. Fe gafodd ei ddedfryd ei hymestyn i chwe blynedd yn y carchar. Atebion cywir: 83%

12. Beth yw enw Dirprwy Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau?

Ateb: Mike Pence

69% ohonoch chi atebodd yn gywir y tro hwn. Llywodraethwr Indiana yw Mike Pence, ffigwr dadleuol oedd yn bartner etholiadol Donald Trump yn ystod yr ymgyrch arlywyddol, ac a fydd yn Ddirprwy Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau pan fydd yr Arlywydd newydd yn cael ei dderbyn yn swyddogol i’r swydd ar Ionawr 20.

Fel Donald Trump, mae Mike Pence yn ffigwr dadleuol, sydd eisoes wedi codi gwrychyn y gymuned LGBT, ymgyrchwyr gwrth-erthyliadau, ffoaduriaid a Mwslimiaid. Ond roedd hyd yn oed Mike Pence yn amharod i roi sêl bendith i rai o sylwadau Donald Trump yn ystod yr ymgyrch.

Canlyniadau’r rownd Celfyddydau ddaw nesaf – cawn weld os oedd eich perfformiad chi gystal yn y rownd honno.