(llun o wefan WWF)
Mae adar mudol yn cyrraedd eu safleoedd nythu ynghynt yn sgil cynhesu byd-eang, yn ôl astudiaeth gan brifysgol Caeredin.

Wrth ymchwilio i batrymau mudo cannoedd o rywogaethau ar bum cyfandir, daeth y gwyddonwyr i’r casgliad fod adar yn cyrraedd eu safleoedd nythu tua diwrnod ynghynt am bob un radd o gynnydd mewn tymheredd byd-eang.

Mae hyn yn gallu amrywio rhwng gwahanol rywogaethau a’i gilydd fodd bynnag, gyda’r adar sy’n mudo pellteroedd cymharol fyr yn fwy tueddol o addasu na’r rheini sy’n mudo ymhell.

O ganlyniad, gallai’r adar sy’n mudo ymhell fod o dan anfantais o ran adnoddau fel bwyd a safleoedd nythu os oes mwy o adar wedi cyrraedd o’u blaen.

Fe fu’r gwyddonwyr yn archwilio cofnodion o adar mudol sy’n mynd yn ôl bron i 300 mlynedd ar gyfer yr ymchwil, gan edrych ar sut y mae adar wedi addasu eu hymddygiad yn ôl tymheredd a’r bwyd sydd ar gael.

Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth yn help ar gyfer darogan sut y gall gwahanol rywogaethau ymateb i newid yn yr hinsawdd, heddiw ac yn y dyfodol.