Mae dyfodol y diwydiant thus yn y fantol wrth i’r galw byd-eang am olew hanfodol gynyddu, yn ôl llywodraeth Somaliland.

Mae perygl o golli’r “rhodd gan Dduw” yn y rhanbarth yng ngogledd orllewin Somalia, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig y rhanbarth, Shukri Ismail.

Y diwydiant thus yw ail ddiwydiant mwya’r rhanbarth ar ôl da byw.

Ond mae’r broses gynaeafu’n gymhleth ac yn beryglus gan fod thus yn tyfu ar ymyl clogwyni ac mae nadroedd yn gyffredin yn yr ardal.

Mae resin sy’n deillio o’r thus yn cael ei allforio i’r Yemen, Saudi Arabia, Ewrop a’r Unol Daleithiau ac mae’r olew’n cael ei ddistyllu i’w ddefnyddio mewn persawr, hylifau’r croen, meddyginiaethau a gwm cnoi.

Mae prisiau thus wedi codi’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o 80c y kilogram i £4-5.70 y kilo, a hynny oherwydd dulliau marchnata.

Ond mae hynny yn ei dro wedi arwain at or-gynaeafu drwy gydol y flwyddyn.