Mae dyn 38 oed o Cheltenham yn anelu i fod y dyn cyntaf i nofio o’r naill ochr i Fôr Iwerydd i’r llall.

Dechreuodd Ben Hooper ar ei daith fore dydd Sul wrth iddo adael Dakar yn Senegal.

Bydd yn anelu i nofio 1,883 o filltiroedd i Natal ym Mrasil, y daith hwyaf rhwng cyfandiroedd Affrica a De America.

Roedd disgwyl iddo ddechrau ar ei daith ar 1 Tachwedd, ond fe fu’n rhaid iddo’i gohirio.

Bydd criw yn ei gynorthwyo ar hyd y daith, a bydd ei ymdrechion yn cael eu cofnodi i’w hanfon at y Guinness World Records.

Fe fydd y cyn-blismon a milwr yn nofio am hyd at 12 awr y dydd am bedwar mis.

Dywedodd: “Mae’r syniad o ysbrydoli pobol yn fonws ar ben gweddnewid fy mywyd.

“Dw i wedi siarad ag 11,500 o blant ysgol yn y DU a’r UDA ac maen nhw wrth eu bodd – hyd yn oed gyda’r syniad ’mod i’n cael fy mwyta gan siarc.”