Y London Eye, nid y 'Barry Eye' (Khamtran CCA3.0)
Mae perchnogion y “Barry Eye” wedi cael rhybudd gan y London Eye i beidio â defnyddio’r enw i ddisgrifio eu holwyn fawr – rhag ofn i bobol ddrysu rhwng y ddau le.

Mae cyfreithwyr Merlin Entertainments wedi cysylltu â Pharc Pleser y Barri dros bryderon am eu “enw masnachol gwerthfawr”.

Dyw perchnogion yr olwyn yn y Barri heb ei henwi’n swyddogol, ond mae pobol wedi dechrau ei galw yn “Barry Eye” ar gyfryngau cymdeithasol.

Llythyr

“Fe wnaethon nhw anfon llythyr aton ni yn dweud ei fod yn enw masnachol ac nad ydyn ni’n gallu defnyddio The Eye am fod pobol yn mynd i gysylltu ein holwyn â’i London Eye nhw,” meddai Kimberley Danter, cyfarwyddwr Parc Pleser y Barri.

“Dim ond parc pleser bach i ni, dydyn ni ddim yn ceisio mynd i drafferth â’r London Eye. Does dim cystadleuaeth rhyngon ni – dw i ddim yn gwybod pam fydden nhw’n teimlo dan fygythiad.”

Fe wnaeth ei theulu brynu’r parc ddwy flynedd yn ôl a daeth yr olwyn fawr i’r safle ym mis Mehefin, er iddi ond gael ei hagor yn swyddogol ddydd Sadwrn.

Poeni am gysylltu Eye’r Barri ag un Llundain

Yn ôl y llythyr a gafodd ei anfon ar ran Merlin Entertainments, mae’r cwmni’n poeni y bydd pobol yn cysylltu’r Barry Eye gyda’r London Eye.

“Byddai’r defnydd o Barry Eye ar gyfer eich atyniad yn arwain at dorri enw masnachol ein cleient ac os bydd angen, bydd ein cleient yn cymryd camau priodol i ddiogelu ei fuddiannau,” meddai’r llythyr.

Yn y cyfamser, mae Parc Pleser y Barri yn meddwl am enwau gwahanol ac yn gofyn i bobol leol am syniadau hefyd.

“Dim ond parc bach ’yn ni, teulu bach sy’n ceisio gwneud ein gorau dros y gymuned,” ychwanegodd Kimberley Danter.

Dymuno pob llwyddiant i “Mr Danter”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Merlin Entertainments, “Tra ein bod yn falch bod gan The Eye apêl eang, fydden ni ddim am ddrysu pobol ac felly wedi dod at gytundeb cyfeillgar â Mr Danter i beidio â’i hyrwyddo [dan yr enw].

“Rydym yn defnyddio pob llwyddiant iddo ef a’i fenter.”