Kumbuka’r gorila
Mae sefydliad bywyd gwyllt wedi galw am ymchwiliad brys wedi i gorila ddianc yn Sw Llundain neithiwr.

Dywedodd y Born Free Foundation fod y digwyddiad yn atgoffa rhywun o’r peryglon sy’n gysylltiedig â chadw anifeiliaid gwyllt peryglus mewn caethiwed.

Fe gafodd y gorila ei ddal, ond mae’r sefydliad bywyd gwyllt yn dadlau y gallai’r digwyddiad fod wedi dod i ben mewn ffordd “wahanol iawn”.

Mae ymwelwyr â’r sw ddoe wedi disgrifio sut oedden nhw’n ofni am eu diogelwch wrth iddyn nhw gael eu gorchymyn i guddio mewn adeiladau pan wnaeth yr epa 29 stôn ddianc o’i ffau.

Cafodd heddlu arfog eu galw i helpu gweithwyr i chwilio am y gorila o gwmpas y sw.

Dywedodd llefarydd ar ran y sw nad oedd aelodau’r cyhoedd “mewn unrhyw berygl” gan fod Kumbuka’r gorila wedi aros mewn ardal ddiogel sydd ddim ar agor i’r cyhoedd.

Ychwanegodd y llefarydd bod ymchwiliad mewnol wedi cael ei lansio i mewn i’r “mân ddigwyddiad”.