Gwion Williams biau’r fideo yma o gefnogwyr Cymru yn canu ‘Rhyfelgyrch Gwyr Harlech’ wrth fynd i lawr y grisiau symudol am y trên cyn y gêm yn erbyn Awstria ddydd Iau diwetha’.

Diolch am anfon y llun hefyd o hogiau Dyffryn Nantlle, a’u baner, yn dilyn y crysau cochion.

Gêm gyfartal, 2-2 oedd hi yn y diwedd rhwng Awstria a Chymru, a gêm lle anafwyd Joe Allen fel y byddai’n colli’r frwydr gartre’ yn erbyn Georgia nos Sul ddiwetha’.

Ydach chi’n nabod rhai o’r cantorion yma? A phwy sy’n chwifio baner Llannon?