Gareth Bale Llun: UEFA
Mae’r tîm a fydd yn herio Georgia yn Stadiwm Dinas Caerdydd prynhawn wedi’i gyhoeddi.
Yr 11 sy’n dechrau dros Gymru yw Wayne Hennessey; Chris Gunter, James Chester, Ashley Williams, Ben Davies, Neil Taylor; David Edwards, Joe Ledley, Andy King; Gareth Bale a Sam Vokes.
Yn eilyddion, mae Owain Fôn Williams, Adam Davies, Hal Robson-Kanu, Emyr Huws, Shaun MacDonald, Andrew Crofts, David Cotterill, James Collins, Tom Lawrence, Paul Dummett, a Tom Bradshaw.
Fe fydd rhaid i’r tîm ymdopi heb un o’u sêr, Joe Allen a ddaeth oddi ar y cae ag anaf i linyn y gâr yn y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Awstria ddydd Iau, a orffennodd yn gyfartal 2-2.
Roedden nhw eisoes heb Aaron Ramsey, sydd heb chwarae ers diwrnod cynta’r Uwch Gynghrair ym mis Awst.
Bydd y gic gyntaf am 5 o’r gloch.