Lady Gaga
Y seren bop Lady Gaga fydd ‘Cilla Black’ mewn ffilm newydd yn seiliedig ar fywyd cantores soul, Dionne Warwick.

Un o aelodau’r grŵp pop Americanaidd Destiny’s Child, LeToya Luckett, fydd yn y brif ran, gyda Danny Glover yn chwarae ei thad a’r enillwr Oscar, Olympia Dukakis, yn chwarae’r gantores Marlene Dietrich.

Mae’r berfformwraig ryngwladol Lady Gaga wedi troi at actio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan chwarae prif ran yng nghyfres deledu American Horror Story yn yr Unol Daleithiau.

Bydd y ffilm yn olrhain hanes gyrfa cynnar Dionne Warwick yn yr 1960au – doedd hi ddim ar delerau da gyda Cilla Black, a fu farw’r llynedd yn 72 oed.

Roedd hi’n teimlo bod fersiwn y wyneb cyfarwydd o Lerpwl o ‘Anyone Who Had A Heart’, a aeth yn syth i rif un yn y siartiau yn 1963, wedi taflu cysgod dros ei chân wreiddiol.

Fe wnaeth y gantores o America, sy’n fwyaf adnabyddus am ganeuon fel ‘I Say A Little Prayer’ a ‘That’s What Friends Are For’, ymddangos yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes i gyhoeddi’r prosiect, sydd wedi selio ar ei hunangofiant.

Enw’r ffilm, sy’n cael ei gynhyrchu gan AMBI Pictures, fydd Dionne.