Mae Israel Kristal yn byw yn Israel.
Dyn 112 oed fu’n garcharor yng ngwersyll Auschwitz yw’r hynaf y byd.

Fe gadarnhaodd Guinness World Records fod Israel Kristal, gafodd ei eni yng Ngwlad Pwyl ond sydd bellach yn byw yn Israel, wedi cipio’r teitl oddi ar ŵr o Siapan fu farw ym mis Ionawr eleni.

Roedd Israel Kristal, a gollodd ei wraig a dau o’i blant yn yr Holocost, yn 112 mlynedd 178 diwrnod oed heddiw.

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd roedd yn byw yn Lodz, Gwlad Pwyl, a phan gafodd ei achub o wersyll Auschwitz ym mis Mai 1945 roedd yn pwyso 37 kilogram.

‘Dim cyfrinach’

Dywedodd yr hen ŵr fodd bynnag nad oedd yn gwybod beth oedd cyfrinach ei fywyd hir.

“Dw i’n meddwl bod popeth yn cael ei benderfynu o’r goruchaf a fyddwn ni byth yn gwybod y rhesymau pam,” meddai Israel Kristal, a symudodd i Israel yn 1950 gyda’i ail wraig.

“Mae dynion clyfrach, cryfach a harddach na fi wedi bod sydd ddim yn fyw bellach. Yr unig beth sydd ar ôl i ni ei wneud yw parhau i weithio mor galed ag y gallwn ni er mwyn ailadeiladu beth sydd wedi’i golli.”

Y ddynes hynaf yn y byd ar hyn o bryd yw’r Americanes Susannah Mushatt Jones, sydd yn 115 mlynedd 249 diwrnod oed.