Caerdydd yw’r drydedd brifddinas orau yn Ewrop i fyw ynddi, yn ôl arolwg safon bywyd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r brifddinas wedi neidio o’r chweched safle ers dwy flynedd yn ôl, ac mae bellach yn gydradd trydydd â Copenhagen a Stockholm.

Oslo, prifddinas Norwy, sydd ar y brig, a Belffast, yng Ngogledd Iwerddon sy’n cipio’r ail safle.

Roedd 79 o brifddinasoedd yn rhan o’r arolwg sy’n canolbwyntio ar safon byw a pha mor fodlon yw trigolion y dinasoedd ar wahanol agwedd ar fywyd yn y ddinas.

Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd gwaith, trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, iechyd, gweithgareddau diwylliannol, cyfleusterau chwaraeon, prisiau tai, safon yr aer, mannau cyhoeddus, meysydd glas a glendid. Mae’r arolwg yn digwydd bob dwy flynedd a chafodd 2,000 o ddinasyddion Caerdydd eu holi am eu barn ar fyw yn y ddinas.

Caerdydd – ‘tyfu’n gyflym’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale ei fod yn “hyfryd” gweld Caerdydd yn codi ar y rhestr ac mai gweledigaeth y cyngor yw cyrraedd y brig y tro nesaf.

“Mae ein pedair prif flaenoriaeth, sef, creu gwell swyddi, cynnig addysg well i bawb, helpu pobl fregus a gweithio mewn partneriaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus lleol, i gyd yn gysylltiedig â gwneud Caerdydd yn lle gwych a bywiog i fyw ynddo,” meddai.

“Rydym yn dal i wynebu heriau mawr. Caerdydd yw un o’r dinasoedd sy’n tyfu cyflymaf ym Mhrydain ac mae hynny’n golygu bod galw mawr ar ein gwasanaethau tra bod cyllid Cynghorau ar draws Prydain wedi eu cwtogi’n anferthol.

“Ond rydym yn gweithio’n galed i wneud Caerdydd yn brifddinas Ewropeaidd wych. Mae gennym ni uchelgeisiau mawr – a pham lai? Mae Caerdydd yn ddinas ardderchog i fyw a gweithio ynddi ac rydym yn benderfynol o’i gwneud yn hyd yn oed gwell i bawb sy’n byw yma.

“Rydym yn gwybod bod llawer o waith eto a bydd creu system Metro, gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu i ni gystadlu’n well â’n cymdogion Ewropeaidd.”