Mae ffosil math o eliffant sy’n dyddio’n ol 100,000 o flynyddoedd, wedi’i ddarganfod ar Ynys Wyth.

Fe ddaethpwyd o hyd i asgwrn ysgwydd y Palaeoloxodon antiquus, yn y tywod ar arfordir gorllewinol yr ynys ym mis Mawrth eleni, a hynny gan un o’r trigolion, Paul Hollingshead.

Y gred ydi fod yr asgwrn – sydd bellach i’w weld yn amgueddfa Dinosaur Isle yn Sandown – yn dyddio o’r cyfnod Ipswichaidd.