Mae Heddlu’r Met yn Llundain wedi cadarnhau bod llwynog wedi ymsod ar faban yr wythnos diwethaf gan anafu ei law yn ddifrifol.

Roedd y bachgen pedair wythnos oed yn cysgu yn ei gartref yn Bromley ar 6 Chwefror pan glywodd ei fam ef yn sgrechian.

Ar ôl rhedeg i’r ystafell gwelodd bod llwynog wedi tynnu’r baban o’r cot ac yn ei dynnu gerfydd ei law ar hyd y llawr.

Llwyddodd i ddychryn y llwynog i ffwrdd ac fe gafodd y baban driniaeth brys i’w law yn Ysbyty St Thomas.

Yn ôl rhai adroddiadau roedd y llwynog wedi torri un bys i ffwrdd o’r llaw ond bod llawfeddygon wedi llwyddo i’w wnio yn ôl wedi llawdriniaeth barodd deirawr.

Pla ydi’r llwynogod medd maer Llundain

Mae Maer Llundain, Boris Johnson wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo efo’r teulu ac mae wedi galw ar arweinwyr bwrdeisdrefi Llundain i weithredu er mwyn rheoli’r hyn mae’n ei alw’n bla.

Fe wnaeth llwynog ymosod ar ddwy chwaer fach yn Hackney, dwyrain Llundain yn 2010.

Mae Cymdeithas Difa Pla Prydain ar y llaw arall yn dweud bod y math yma o ymosodiadau yn achosion prin iawn.

“Mae pobl yn bwydo llwynogod gan eu denu i ddod yn agosach at eiddo,” meddai Richard Moseley ar ran y Gymdeithas.

“Buasai lladd y llwynogod yn gostus iawn ac yn llawer iawn o waith. Mae’r farn gyffredin hefyd wedi ei rhannu 50/50 o blaid ac yn erbyn eu difa,” ychwanegodd.