Mae ffigurau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod mwy na 500,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn medru’r Bwyleg.
Hon yw’r iaith o dramor sy’n cael ei siarad fwyaf yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn.
Nododd 8% nad oedden nhw’n siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf.
Mae’n ymddangos bod 546,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn siarad Pwyleg, ac mae hynny’n adlewyrchu nifer gynyddol o fewnfudwyr yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Yn ardal Ealing yn Llundain mae’r ganran uchaf o siaradwyr Pwyleg, sef 6%.
Yn Redcar a Cleveland roedd y ganran uchaf o siaradwyr Saesneg, gyda 99% yn ei nodi fel iaith gyntaf.
Cafodd mwy na 100 o ieithoedd eu rhestri fel prif ieithoedd Llundain.
Dywedodd 1.7 miliwn o bobl nad oedd wedi rhestri Saesneg fel iaith gyntaf eu bod yn gallu siarad yr iaith yn dda.
Dywedodd 138,000 nad oedden nhw’n medru Saesneg o gwbl.
Nododd 33 o bobl yng Nghymru a Lloegr eu bod nhw’n medru Manaweg, tra bod 58 yn medru Gaeleg yr Alban.
Ymhlith yr ieithoedd eraill sy’n cael eu siarad mae Punjabi, Bengali a Mandarin.